Profiad:
Mae Altor Security Cyfyngedig yn gwmni Cyfyngedig gyda swyddfeydd yn Llundain a Chaerdydd. Rydym yn gwmni diogeledd sy’n darparu gwasanaethau i’r diwydiant Ffilm a Digwyddiadau ledled y byd. Gweler ein tudalen gwasanaethau i weld disgrifiad llawn o’r gwasanaethau proffesiynol y gallwn ni eu darparu i’ch cynhyrchiad nesaf. Mae ein cronfa ddata o weithwyr dibynadwy gyda phrofiad ym myd ffilm yn ymestyn ledled y DU. Rydym wedi gweithio gyda chynyrchiadau mawr gan Stiwdios mawr o’r UD yn ogystal â ffilmiau annibynnol bach, Hysbysebion a Digwyddiadau. Rydym wedi diogelu a rheoli priodasau mawr i bobl enwog, partïon corfforaethol a phreifat a digwyddiadau anarferol o bob math a maint.
Perchnogaeth:
Mae gan gyfarwyddwr y cwmni, Perry Cumber (Trwydded SIA: 0740122194300801), lawer o flynyddoedd o brofiad yn y sectorau Cerddoriaeth, Chwaraeon, Digwyddiadau a Ffilm a Theledu fel Arweinydd Diogeledd a Rheolwr Digwyddiad. Mae Perry a’i dîm yn gweithio’n galed i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf sydd yn hyblyg i’r cynhyrchiad ac yn darparu dyletswydd o ofal i’r cyhoedd ar yr un pryd.
Mae Altor Security wedi’i ymrwymo i wella’n gyson ac ar hyn o bryd mae’n mynd trwy broses ardystio ar gyfer Contractwr Diogel ac ISO 9001.
Mae Altor Security wedi’i gofrestru yn Lloegr a Chymru: Rhif cwmni 07149705 – Wedi’i gorffori ar 8 Chwefror 2010. Y Cyfeiriad Cofrestredig yw 145-147 Hatfield Road, St. Albans, AL1 4JY.
Mae Altor Security Cyf wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) i ganiatáu i’r cwmni brosesu gwybodaeth bersonol er mwyn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth i’n cleientiaid; rheoli a chynorthwyo ein cyflogeion; cynnal ein cyfrifon a chofnodion ein hunain a hysbysebu a hyrwyddo ein gwasanaethau. Gellir gweld ein cofrestriad ICO yn ico.org.uk/register.
Yswiriant: Gellir darparu manylion yswiriant ar gais. Mae ein broceriaid, Darwin Clayton wedi ein hyswirio tan 30 Tachwedd 2017 am y dilynol:
Atebolrwydd Cyflogwyr: £10,000,000.00 Atebolrwydd Cyhoeddus: £5,000,000.00 ac Atebolrwydd Cynhyrchion: £5,000,000.00.
Hyfforddiant, Datblygiad a Chyflogaeth:
Rydym yn credu mewn creu timau cryf trwy recriwtio’n lleol, talu’n dda a darparu hyfforddiant da. Mae Altor Security Cyfyngedig wedi’i ymrwymo i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) ein cyflogeion. Yn ddiweddar rydym wedi archebu hyfforddiant eang ar gyfer ein Tîm Stiwdios y Ddraig er mwyn adnewyddu ac uwchraddio eu sgiliau craidd i ddarparu cymorth pellach i’r cynhyrchiad. Mae’r agwedd hyfforddiant proffesiynol yn ofyniad cynyddol gyda Stiwdios yr UD ac rydym yn fodlon ymgymryd â chyrsiau hyfforddi penodol ar gyfer eich cynhyrchiad fel rhan o’n gwaith CPD cyn cael ein hadleoli.
Fetio a Dewis:
Er bod y gyfraith yn galw ar bob cwmni diogeledd i sgrinio a fetio eu cyflogeion dim ond ychydig sy’n gwneud hynny. Fel rhan o’n gwaith i gael statws ardystio ISO 9001, mae Altor Security Cyfyngedig yn gweithio i BS 7858: 2012 – Cod Ymarfer Safonau Prydeinig ar gyfer Sgrinio Diogeledd o unigolion a gyflogir mewn amgylchedd diogeledd.
Os hoffech wybod rhagor am Altor Security neu os hoffech inni dendro ar gyfer eich cynhyrchiad nesaf byddwch gystal â chysylltu trwy ein tudalen cysylltu.



Credydau Ffilm a Drama Deledu
‘Will” – TNT USA – Diogeledd Stiwdio a Lleoliad
NW – Mammoth Screen i’r BBC
Old Boys – Old Boys Productions
War Machine – Plan B/Netflix
New Blood – 11th Hour Films i’r BBC
Wendy and Peter – Ffilm BBC
Kick Ass II – Marv Films
X Men First Class – 20th Century Fox
Plastic – Gateway Films
Babylon – Channel 4 TV
Gwaith Ymgynghori
Sioe Gerdd Cats – Taith y Byd
Sioe Gerdd Beauty and the Beast – Taith y Byd
Sioe Gerdd Shrek – Taith y Byd
Cynghorydd Risg i Grŵp Adloniant Broadway
Digwyddiadau a Phartïon
Gay Pride – Lleoliadau amrywiol o gwmpas Llundain
Sky TV – Parti Lansio Game of Thrones
Sky TV – Parti Lansio Broadwalk
Lansiadau Gemwaith Simon Harrison
The Chapel @ King’s Arms – Pob Parti
Partïon Preifat ar Raddfa Fawr