Wasanaethau:
Diogeledd Set Ffilm
Mae Altor Security yn darparu gwasanaethau diogeledd o fewn y sector Ffilm a Digwyddiadau. Mae ein timau diogeledd set ffilm yn gweithio’n barhaus ledled y DU. Rydym wedi darparu timau diogeledd ar gyfer amrediad eang o Ffilmiau, Hysbysebion a Digwyddiadau. Ein nod yw darparu’r gwasanaeth gorau oll am eich cyllideb.
Ymgynghorwyr Diogeledd ar gyfer Cynyrchiadau
Yn gyffredinol mae ein hymgynghorwyr cynhyrchiad ffilm yn dod o gefndir Milwrol ac mae ganddynt amrediad eang o brofiad diogeledd sy’n cynnwys unrhyw beth o weithrediadau diogeledd arfog risg-uchel i ddiogelu artistiaid cerddoriaeth â phroffil uchel. Gallwn alw ar nifer o ymgynghorwyr diogeledd sy’n barod i adleoli i ardaloedd risg-uchel i baratoi ar gyfer cyrhaeddiad eich criw a chast. Yn ddiweddar rydym wedi adleoli ymgynghorwyr i Ogledd Affrica, Yr Emiraethau Arabaidd Unedig ac Asia.
Cysylltwch â ni os oes arnoch angen ein cymorth neu os ydych eisiau siarad trwy fater a chael ychydig o gyngor. Rydym bob amser yn fodlon derbyn galwad a darparu cyngor ar gyllidebau a gofynion a chudd-wybodaeth mewn gwledydd penodol.
Diogeledd Set Ffilm
- Diogeledd Set a Chanolfan Uned
- Gweithlu Par/Taro
- Rheoli Uned
- Cymorth â Lleoliadau
- 4×4’s a Gyrwyr

Diogeledd Stiwdio Ffilm
- Asesiad Risg Diogeledd ac Arolwg Safle llawn o’r Stiwdio neu Ofod Adeilad
- Rheolaeth Mynediad a Phatrolau Diogeledd a fonitrir 24 awr yn defnyddio systemau adrodd patrôl gwarchod
- Rheolaeth Systemau Diogeledd a Diogelwch (Larymau, CCTV a Rheolaeth Mynediad)
- Darparu Rheolaeth Mynediad a Rheolaeth Parcio trwy gydol y safle
Yn Stiwdios y Ddraig rydym wedi cynyddu effeithlonrwydd y safle’n fawr trwy:
- Ddarparu tîm proffesiynol wrth y fynedfa i sicrhau fod y criw yn cael eu nodi’n gyflym heb gael eu rhwystro gan gyraeddiadau newydd
- Darparu rheolaeth parcio i sicrhau fod criw yn cael eu harwain yn gyflym i leodd parcio sydd ar gael ac yn cael eu cyfeirio at y man ffilmio
- Cynorthwyo’r tîm AD gyda threfnu pobl a chloi i ffwrdd
Ffoniwch ni os ydych chi’n ystyried rhentu Gofod Adeilad neu Stiwdio ac os oes arnoch angen help neu gyngor.

Ymgynghorwyr Diogeledd
- Asesiadau Risg/Cudd-wybodaeth cyn teithio
- Cydgysylltu â llysgenadaethau a heddlu lleol
- Dadansoddi dogfennaeth gynllunio ar gyfer lleoliadau a gwestai
- Creu a pharatoi cynlluniau gwagio mewn argyfwngPersonél Profiadol Cyn-filwrol yn barod i adleoli

Rheoli Traffig
- Rheoli Traffig
- Tîm Profiadol
- Rheoli Maes Parcio
- Cadw Ffyrdd
- Arwyddo Ffyrdd â Chonau

Diogeledd Digwyddiad
- Dangosiadau Cyntaf Ffilmiau
- Gwyliau Cerddoriaeth
- Ôl-bartïon
- Digwyddiadau Lansio
- Digwyddiadau Cast a Chriw
- Dathliadau Tymhorol

